Skip to topic | Skip to bottom
Search:
Home

The Carmarthenshire Historian

Historian


Start of topic | Skip to actions

'Shakespeare y Cymry' a Chaerfyrddin

gan W. J. HARRIES, M.A.

Pennaeth yr Adran Gymraeg, Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.

TODO Welsh speaker required to proof read! -- ChrisJones

" Yr oedd yn ddyn effro ei gyneddfau wedi dyfod i'r ardal fwyaf effro ei chyneddfau yng Nghymru." Dyma frawddeg a godwyd o lyfr Bobi Jones I'r Arch.1 Cyfcirio a wna'r awdur at yr anterliwtiwr enwog Twm o'r Nant, a gafodd ei alw yn ei ddydd yn " Shakespeare y Cymry," a gwlad Fyrddin, canys bu ef yn byw yn Sir Gaerfyrddin o gwmpas y blynyddoedd 1779—1786. Ac o gofio'r dyddiadau hyn gellir deall yr hyn a olyga Bobi Jones pan ddywed " yr ardal fwyaf effro ei chyneddfau yng Nghymru." Dyma ardal ac adeg yr cmynwyr mawr yn Sir Gaerfyrddin, emynwyr megis Pantycclyn (1717—1791), Dafydd Jones, Caeo (1711—77), Morgan Rhys, Cil-y-Cwm (1717-79), John Dafydd (1727—71) a Morgan Dafydd Caeo (1747—?), John Thomas Myddfai, awdur " Rhad Ras " (1730-1803), Dafydd William Llanedi (1721 -1794) a Thomas Lewis y gof o Dalyllychau (1759-1842).

Cyfyd dau gwestiwn yn nawr sy'n gofyn i'w hatch. Y cyntaf ydyw " ym mha le yn Sir Gaerfyrddin y bu Twm fyw ? " Yr all ydyw "a oes hanes ar gaol am ei gyfnod yng Nghaerfyrdd.in ? " Yn ffodus gellir ateb y ddau ofyniad. Atebir y gofyniad cyntaf drwy ddweud i Dwm o'r Nant fyw yng nghyffiniau Llandeilo yn ystod y blynyddoedd 1779-1786, ac am hanes ci arhosiad yno yn ystod y blynycldocdd hynny gellir sicrhau cymorth Twm ei hun. Ceir y cymorth hwn yn ci hunangofiant a ymddangosodd yn gyntaf yng nghylchgrawn y Greal yn 1805, ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Cymru gyda Rhagymadrodd gwerthfawr gan G. M. Asthton.2

Fe ddichon yn aml lawn mai awydd awdur am ddiogelu coffadwriaeth iddo'i hun mown geiriau sydd wrth wraidd ysgrifennu hunangofiant. Eto y path pwysig i'w gofo ydyw pan gofnodir hanes bywyd unigolyn mewn hunangofiant fe achubir y bywyd hwnnw rhag syrthio i fythol anghofrwydd. Yn ffodus i ni, gwelodd Twm o'r Nant yn dda i achub ci fywyd rhag syrthio i fythol anghofrwydd drwy gofnodi ei hun yr hanes amdano.

0 sylwi ar y cyfarchiad i Owain Myfyr ar ddechrau Hunangoliant Twm o'r rant, ymddengys nad awydd am gaol colfad iddo'i lion a barodd i Twm ysgrifennu hanes ei fywyd. Daw amcan ei gyfansoddi i'r golwg yn y geiriau canlynol :

"Yn gymaint ag i amryw ddynion fy annog i ysgrifennn hanes fy mywyd o'm genedigaeth, neu yn hytrach o'r hyd yr wyf yn sicr o gofio, mi anturiaf osod i lawr gynifer pethau mwyaf neilltuol a glywais ac a bro£ais yn fy nghoffawdwriaeth amdanaf fy hun." (td 27).

Daw dau beth i'r golwg yn y geiriau uchod. Yn gyntaf, ar gals cyfeillion fe'r cyfansoddwyd. Folly nid diogelu coffadwriaeth i'r hunangofianydd oedd wrth wraidd cyfansoddi'r hunangofiant hwn. Yn ail, detholiad ydyw. Ni honnir bod yr hanes yn gyflawn. Ac yn weir byr iawn yw ei hyd. Fc'i cyhoeddwyd gyntaf nid fel .11yfr annibynnol and mown cylchgrawn, a gellir cytuno a'r golygydd yn ei ragymadrodd pan ddywed i'r hunangofiannydd hepgor " llu o bethau y carom eu gwybod" (td 1). Fodd bynnag er mai byr yw hyd yr hanes ac er mai saith mlynedd yn unig a dreuliodd yn Sir Gaerfyrddin eto rhoddodd le dyladwy i'r cyfnod hwn o'i fywyd yn ei hunangofiant. Rhaid folly fod yr arhosiad wedi gwneud argraff arno.

Thomas Edwards3 oedd enw priod Twm o'r Nant ac fe'i ganed yn 1739 ym Mhenparcell Isaf, plwyf Llanefydd, Sir Ddinbych. Yn 1741 Symudodd ei ricni i'r Nant, sef tyddyn bychan yn ymyl Nantglyn, heb fod and ychydig filltiroedd o'r lie ganed ef. Y Ile hwn a roes yr enw a lynodd wrtho ar hyd ei oes. Dysgodd ddarllen pan ddaeth un o ysgolion Griffith Jones i Nantglyn, a chafodd bythefnos o ysgol yn nhref Dinbych i ddysgu Saesncg. Dyna'r cyfan o'i addysg boreol. Ys dywed :

"Ymhen ychydig, oddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn ; mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythrennau. Ond yr oedd llawer o son ymysg hen wragedd cyfarwydd y wlad, y byddai iddynt fyned a'r boll blant i ffwrdd pan ddelent yn fawrion, oblegid eu bod yn rhoi eu henwau i lawr ; and peth bynnag, ni chlywais i un ohonom fyned. Ond fe aeth y frech wen a'm fi adref yn sal ; ac ar 61 gwella o honno, yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol ; fe orfu i mi ddysgu gyrru yr ychen i aredig a llafurio, yn hytrach na dysgu darllen ; and fe fyddai fy mam yn atgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn. Yr oeddwn erbyn hyn cyich wyth odd ; a'r haf hwnnw mi gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos ; a phan gyntaf y dysgais ysbelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifennu Mi ysgrifennais lawer o gerddi, a dau lyfr Interlute, cyn bod yn naw oed ; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu, fe ddaeth hwn a'r Ilall i edliw I'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saesneg ; and wrth hir addaw, hwy a'm gadawsant i fyned i'r Dref i'r ysgol, Ile bum bythefnos yn dysgu Saesneg ; a dyna'r cwbl. Fe orfu imi ddyfod adref i wneud rhywbeth am fy mara, a thuag at gynnal y plant eraill." (td 29-30).

Yn 1763 ymbriododd a Elizabeth Hughes o Bont y Garreg, Llanfair Talhaearn ac aeth i fyw i dyddyn bychan o'r enw Y Bylchau, " ar fin y ffordd o Nantglyn i Lansannan" (td 35). Ni fu yno'n hir a symudodd lawer yn ystod y blynyddoedd 1763-1779. Enwa'r lleoedd y bu'n byw ynddynt yn ei hunangofiant. Yna yn 1779 ac yntau'n ddeugain oed ceir ef yn symud i'r De, ac ymsefydlu yn Sir Gaerfyrddin. Tua'r adeg hon aeth tad bedydd Twm sef ei ewythr a brawd ei dad i ddyled. Dywed Twm mai t:30 oedd swm y ddyled. Anfonwyd yr ewythr i garchar am na allai dalu'r arian. Addawodd Twm fyned yn feichiau drosto, and methodd yr ewythr a thalu a gorfu i Dwm ffoi i'r De o afacl y gyfraith, a ffoi a wnaeth i Gaerfyrddin.

Dichon mai fel prif anterliwtiwr Cymru y cofir am Dwm o'r Want yn bennaf. Ni chair eglurhad symlach o'r hyn yw anterliwt na'r frawddeg ganlynol yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg.

"Math o ddrama ar fydr oedd yr anterliwt, a byddid yn ei hactio ar waged mewn huarth ffarm, neu ar yr heol mewn marchnad a flair, neu ar fwrdd mewn cegin tafarn." (td 208).

Honnai Dr. Thomas Parry, awdur Hanes Llenyddiaeth Gymraeg, fod " tua deugain anterliwt ar gael heddiw, yn gyfan neu mewn rhan, Thai ohonynt yn argraffedig a rhai mewn ysgrifen."5 Gellir barnu oddiwrth yr hyn a ddywed Twm yn ei hunangofiant mai ef yw awdur y nifer mwyaf ohonynt. Wele'r cyfeiriadau canlynol:

"Mi ysgrifennais lawer o gerddi, a dau lyfr Interlute yn naw oed." (td 30). "Minnau yn hogyn mi wneuthum Interims cyn bod yn 14 oed (ar y Ilyfr Priodas Ysbrydol, gall John Bunyan)." (td 32).

Mi wneuthum Interlute cyn bod yn 14 oed yn Ian i ben" (td 33).

" Ac yn o1 hynny, pan oeddwn gylch 20 oed gwneuthum Interlute yngylch Cain ac Abel." (td 34).

Dian mai ymffrostio a was Twm yn ei fedr i gyfansoddi anterliwtiau yn y cyfeiriadau uchod gan y gofala gofnodi ei oed pan gyfansodda hwynt. Y gwir yw mai saith o'i anterliwtiau a erys ac ni chyfansoddwyd yr un o'r rhain yn ystod ei arhosiad yng Nghaerfyrddin. Perthyn pedwar ohonynt sef ` Y Farddoneg Fabilonaidd,' ` Cyfoeth a Thlodi,' `Tri Chydymaith Dyn ' a ` Phedair Colofn Gwladwriacth ' i'r cyfnod cyn ei ddyfodiad i Fyrddin ac y mae'r dair drama argraffedig arall sef 'Pleser a Gofid,' ` Tri Chryfion Byd' a 'Chybydddod ac Oferedd' yn perthyn i'r cyfnod wedi ei ddychweliad i'r Gogledd. Y mae hyn yn rhyfedd oblegid fel y dywed Golygydd yr Hunangofiant yr oedd argraffwasg hwylus gan John Ross yng Nghaerfyrddin yr adeg hon " (sef adeg trigias Twm yn y sir), " eithr nid ymddangosodd dim o waith Twm o'i swyddfa." (td 4-5).

Fodd bynnag os mai cyfnod o segurdod anterliwtaidd fu blynyddoedd byw yng Nghaerfyrddin yr oeddynt yn flynyddoedd llawn gweithgarwch mewn cylch arall, ac ni ffurfient gyfnod ddi-elw i'r Anterliwtiwr o bell ffordd. Cariwr coed ydoedd Twm wrth ei alwedigaeth ac wedi cyrraedd Caerfyrddin gwelodd y gallai gael gwaith yno i gario coed. Ac fel yr ymffrostiodd yn ei fedr i gyfansoddi anterliwtiau, ceir Twm yn nawr yn ei hunangofiant yn ymffrostio yn ei fedr i gario coed. Dywed nad oedd neb tebyg iddo am dorri llwythi trymion o goed a'u symud ar hyd y ffordd. Yn wir honnai fod ei orchestion yn symud a llwytho coed trymion yn olygfa ryfeddol i drigolion Caerfyrddin.

"a minnau yn cario coed mawr lawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad honno mo'u cyffelyb, nac yn odid o wlad arall, ac a glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac euthum i ben eu siwrnai ; rhai yn gant troedfedd, a chant a harmer a deucant, yn un darnau ; a'r mwyaf oeddynt yn ei alw hrenhinbren, oedd yn ddau cant a phedair troedfedd a deugain." (td 41).

Dyry ddisgrifiad ohono yn cario pren mawr o 45 troedfedd o hyd dan `arch' porth Heol y Brenin yng Nghaerfyrddin, ac yn y disgrifiad hwnnw cronicla pob gorchwyl a gyflawnid ganddo i gael y prep mawr yn ddiogel o'r goedwig i'r dref

" Yr oedd ef (sef y pren) 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn Ian ; minnau a godais y Crean uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth ; ac yna ncedais y par olaf mor belled ag y medrwn dano ; ac yna symud y Crean at ei ben bon, a deisyf ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon ac yna codi'r bon a'i lwytho ar y wagen ; ac yna gyrru ymlaen, ac ail setlo yr olwynion olaf ; yna myned i'r ffordd, ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thorn line tres. Ond gwedi myned i'r Dref, at Korth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch, dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechrau ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth y ffordd honno ; minnau, wedi synnu path, a gefais gan rai oedd yno, trwy addo fyned atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn cu holau ; ac folly, trwy fod amryw yn taro llaw at y path, mi a'i cefais hi yn of ; a chwedi hynny, ni a aethom, dri neu bedwar, i Yard yr Ivy Bush, ty tafarn, lie yr oedd crystiau coed (yslabs) ac a gawsom Cu benthyg, ac mi a'u gosodais hwynt o flaen yr olwynion olaf, yn glwt i godi rheini, fel y byddai i'r pen arall ostwng tan y bwa maen, ac folly y bu, a'r edrychwyr a roddasant fanllef groch wrth weled y fath beth, ac amryw ohonynt a yfodd at y liana a minnau." td 41-42).

Gwasanaetha'r hanes canlynol o'i eiddo yn symud llong a adeiladwyd gan ferchant o Abermarlais filltir a chwarter i afon Tywi fel cnghraifft pellaf o'i fedr a'i allu i orchfygu rhwystrau.

"Fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu llong fechan, a gariai gwmpas 30 neu 40, turmoil ; fe'i gwnacth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddi wrth afon Tywi, pa un a fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin. Ond hon a wnaed yn rhy drom i'w llusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gwr yn bwriadu, sef i bobl ci Ilusgo, o ran sport ; Minnau a ddywedais y mcdrwn fyned a hi i'r afon and cael tri neu bedwar o ddynion I'm helpu ; yntau a ddywedodd y cawn y peth a fynnwn, os medrwn fyned a'r llong i'r afon. A deisyf yr oedd arnaf am ddyfod y bore drannoeth, as gallwn ; minnau a ddeuthum, a'r llanc, a phedwar o'r ceffylau ; a mi a ddeuthumo flaen y wedd, ac a roddais y dynion ar waith, i dorri twll mewn hen wal fawr, oedd megis o flaen y llong ; ac yno rhoi darn a bren ar draws y twit, y to pellaf, i roi chain i fachu y racl, sef rhaff a hlociau, a bachu y pen arall wrth y llong, a rhoi y ceffylau wrth y rhaff i dynnu. Folly hi (Harsh o'r clawdd yn lied hwylus ; ac yna bachu dracheln a n h bren yn tyfu, a dyfod ymlaen folly ; and pan ddard i dir meddal, yr oedd yn rhaid rhoi planciau tan yr

olwynion o ran y pwysau, ac ar 81 tynnu i ben blacn y planciau, symud y rhai olaf ymlaen, ac felly o hyd ; a lie na byddai cyfie i fachu wrth bren yn tyfu, byddai raid rhoi post yn llawr, i fachu ; ac o bost i bared hi aeth i'r afon, mewn ychydig ddyddiau ; ac addo i minnau gyflog da, and ni chefais i yn y diwedd un ddim ai byth, and addo, a'm canmol : rhai pobl a fyddai yn dyfod i edrych arnom ac yn rhoi peth arian i ni geisio cwrw, a dyna y cwbl." (td 44-46).

Y mae'n amlwg fod Twm yn cael hwyl wrth son am ei orchestion yn codi a chario coed, a rhestra'r mannau y bu'n torn a chario coed yng Nghaerfyddin sef Abermarlais, Daliaris, Alit y Cadno, Cil y Cwm, Myddfai, Llangennech, a Gwal yr Hwch, Llanedi. Bu hefyd yn cario coed " o le a elwir y Ffrwd i Gaerfyrddin ac o Wempa i Gaerfyrddin." (td 46). Nid oedd ei fusnes cario coed bob tro yn lwyddiannus ac yn elw i gyd. Profodd golledion ar adegau. Daeth afiechydon ar ei geffylau. Dywed iddo golli saith ar hugain ohonynt yn ystod ei arhosiad yn sir Gaerfyrddin.

Pan ffodd i Gaerfyrddin o afacl y Gyfraith cafodd waith cario coed o Abermarlais i'r dref. Ei daliad am wneud hyn oedd " chwecha:niog y droedfedd." (td 40). Perchennog coed Abermarlais a sicrhaodd gartref i Dwm a'i deulu yn y sir.

" fe ddarfu cin mcistr, y timber merchant, gymryd Gate Turnpike am gant punt ac wyth yn y flwyddyn o rent, y ni i gaol arian y gate at ein bywoliaeth, a setlo y rhent wrth gario." (td 41).

Bu Twm fyw yn y tyrpeg am dair blynedd a diddorol ydyw ci gaol yn cofnodi sut y talai'r tollborth yn ystod yr amser hyn :

" Y Gate oedd y fiwyddyn gyntaf yn lied gwla o ran profit ; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi ; and yr all flwyddyn, hi a dalodd yn bur dda ; a'r drydedd fe godwyd arni 15 punt, and nid drwg oedd hi yno." (td 43).

Y mae'n werth nodi am ddiffuantrwydd Twm yn son am ei gyfoeth a'i dlodi. A barnu wrth yr hyn a ddywaid gallasai fod yn sir cyfoethog. Cyn ei ddyfodiad i Gaerfyrddin yr oedd yn werth £300,

arian mawr rhyw ddwy ganrif yn ol. Ac yn ddiwcddarach pan gullodd ei gyfoeth, teg yw nodi nad ymollyngodd i chwerwi ato'i hun no chwaith at yr ewythr yr aeth yn fach drosto am £30 ac a ddechrcuodd pennod gofidiau Twin.

Ffynnai cred gref rnewn ofergoelion yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif, a rhoddid pwys mawr gan y werin ar wyrthiau rhyfeddol a gwaredigaethau hynod rhag berygl a ddigwyddai i bobl, heb son am ymddangosiad ysbrydion, y gannwyll gorff a'r toili. Angladd yn myned heibio yn y nos ydyw toili a gwelid of gan lawer yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn Llandeilo Fawr y gwelodd Twm y toili yn myned heibio i'r Gate a gadwai ef a'i deulu, a rhydd ddisgrifiad cyflawn i ni ohono :

" Mi a welais fy hun, ryw noswaith, hears yn myned trwy'r Gate, a hithau ynghauad ; gaveled y ceffylau a'r harnas, a'r hogyn postillion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau yr hears, a'r olwynion yn pasio'r cerryg yn y ffordd fal y byddai olwynion eraill : a'r claddedigaethau yr un modd, mor dcbyg, yn elor ac yn frethyn du ; neu os rhyw un icuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen." (td 43-44).

Gwelodd y gannwyll gorff hefyd yn yr un lle.

"Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y Gate, Edrychwch acw, cbr ef, dacw gannwyll gorff yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd facer gerllaw ; folly ni a ddaliasotn sylw arni yn dyfod, megys o'r to arall i'r lan ; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall ennyd yn y caeau ; ac ymhen ychydig bu raid i gorff ddyfod yr un ffordd ag yr oedd y gannwyll, oblegid fod yr hcn ffordd yn Hawn o eira." (td 44).

Arwyddion a ragfynega farwolaeth oedd y toili a'r gannwyll gorff. 0 syiwi ar bobl y toili gellid dirnad pwy yw'r sawl a fu farw gan mai'r un dyrfa sy'n gwneud y toili a geir yn yr angladd. Teithiai'r gannwyll gorff hithau lwybr y gladdedigaeth i'r bedd. Cychwynnai o dy'r un a gynrychiola a diffodd ar fan y bedd. Ni ellir bod yn sier a gredai Twm yn yr arwyddion hyn and rhaid nodi y ceir cf yn manylu ar hanes rhyfedd ymddangosiad ysbryd " yr hen Via- o Gaerfyrddin" (td 44) trwy gynnwys manion ffeithiau amdano. I)ywcd ci fod yn arfer " cario pysgod i Aberhonddu a'r Fenni, a Monmouth ac yn dyfod a Gloucester cheese teneuon gantho yh 61." llefyd i wircddu'r achlysur dwg y fam a'r ferch i'r helynt.

"yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ci &dill, an yr oedd yr hin yn ddrycinog fawn, o wynt ac eira Ilurhiu ; a chanol y nos, fe glywai fy merched i lais yr hen viar vii v Gate, a'u mam a'u galwodd hwynt i agar ar frys,

erchi'r hen wr ddyfod i'r ty at y tan. Codi a wnaeth y ferch ; erbyn mynd allan nid oedd yno neb ; a thrannocth dyma gorff yr hen wr yn dyfod ar drol, gwedi marw yn yr eira ar fynydd Tre'r Castell : a dyna'r gwir am hwnnw." (td 44).

Wedi fair blynedd yn cadw tyrpeg aeth Twm i gadw tafarn yn Llandeilo Fawr and parhaodd wrth ei orchwyl o gario coed drwy'r amser. Yna fe dorrodd ei feistr, y masnachwr coed, a bu raid i Dwm ddychwelyd i'r Gogledd, a thua diwedd 1786 ffar cliodd a sir Gaerfyrddin.

Gwaith peryglus oedd ffraeo a "Twm o'r Nant. Nid gwiw, oedd i neb ddamsang ar ei draed a pheri Toes iddo. Medrai ysgrifennu'n chwerw iawn am bobl folly. Yr oedd ganddo dafod llym a chai hwyl ar adegau wrth ei ddefnyddio fel offeryn talu'r pwyth yn 61. Er enghraifft ar dud 47, wrth son am y "merchant" a ddygodd oddi arno £54 - 6/- dywed.

"Mi a gefais yr anrhydedd o'i weled ef ar geffyl yn Ninbych gyda'r beiliaid, yn myned i garchar Rhuthin. ac a ddywedais a lief uchel, mai dyna yr olwg orau a ddymunwn weled arno, oni bai i mi gaol yr olwg arno yn myned o'r gel i'r Gallegfa, Ile byddid yn crogi lladron.

Ond yrnhen ennyd fe gadd of fyned yn fancrafft, i saiio tale i neb ; ac mae fe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes orffen talu byth." (td 47).

Gyda'r afiaith a ddaw i'r golwg yn y geiriau " ac a ddywedais a lief uchel, mai dyna yr olwg orau a ddymunwn weled arno," sylwer ar y coegni yn yr ymadrodd " ac mae fe yn awr am wn i mewn gwlad nad oes orffen talu byth."

Bu mewn ymladdfa fwy nag Unwaith eithr nid teg casglu mai g$wr rhyfelgar ydoedd canys gwyr y gyfraith oedd y gwrthwynebwyr bob tro fel y gwelir ar dud 42 lle y ceir ef yn ymladd a thri o geisbyliaid Swydd Drefaldwyn yn Llandeilo Fawr. Dyma eiriau Twm :

" Peth bynnag, yn ymrafael yr aeth hi, a dechrau ffusto a wneuthum, a mi a gefais ddau i lawr, ac a ddcliais i guro."

Nid gorchwyl hawdd felly oedd curo Twm mewn brwydr.

Nid oes dim a ddwed yn well am arddull ysgrifennwr rhyddiaith na'i ddefnydd o eiriau a'i ddull o fynegi ei feddwl trwyddynt. Medrai Twm ysgrifennu rhyddiaith o'r radd flaenaf. Gwir iddo ysgrifennu ei hunangofiant yn iaith bob dydd y bobl gyffredin and yr oedd yr faith wledig honno yn gorfforiad o " Gymraeg rhywiog a grymus " fel y dywed golygydd y gwaith.

Cydnabyddir bellach mai Twm o'r Nant yw'r pennaf a anterliwtwyr Cymru. Yr oedd yn actor yn ogystal ag yn ddramodydd. Diau mai gormodiaith oedd ei alw yn ei ddydd gan Dr. Samwell yn " Shakespeare Cymru." Eto dylid cofio hyn—ar waethaf ci addysg brin gwnaeth ei ran i gadw'r diwylliant Cymraeg yn fyw. Ac mewn dyddiau fel y presennol tybed nad hyn yw un o'r pethau pwysicaf i'w cofio, canys cyfoethocach o lawer a fyddern fel cenedl pe bai gennym lawe.r mwy yn debyg iddo. Path arall bu'n byw am ysbaid yn sir Gaerfyrddin, a rhaid fod yr arhosiad wedi dylanwadu arno. Barnai Bobi Jones fod tinc rai o emynwyr sir Gar i'w ganfod ar y gwaith a gyfansoddodd wedi iddo ddychwelyd i'r Gogledd.6 Dywedir hefyd fod yn ei waith berffeithiach darlun o'r ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn. Ys dywed Dr. R. T. Jenkins yn ci lyfr Hanes Cymru yn y Ddeunaaw£ed Ganrif (td 104).

"yng ngweithiau'r gwerniwr garw hwn y mae darlun byw o'i gyd-genedl, yn ei nerth ac yn ei gwendid, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg—darlun llawer llawnach nag a dynnodd offeiriad dysgedig y Lasynys7 ganrif o'i flaen."

Yn sicr y mae Ile i Dwm o'r Nant yn hanes sir Gaerfyrddin, ac yn sicr da o bath oedd canfod myfyrwyr Coleg Hyfforddi y Drindod yn perffonnio un o'i anterliwtiau a hynny ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pan ymwelodd hi a thref Llanelli yn 1962.

Buasai Twm ei hun yn falch o wybod i hyn ddigwydd.


to top


Historian.ShakespeareCymryChaerfyrddin moved from Home.ShakespeareCymryChaerfyrddin on 11 Sep 2005 - 14:58 by ChrisJones - put it back
You are here: Historian > HistorianVol3 > ShakespeareCymryChaerfyrddin

to top