Skip to topic | Skip to bottom
Search:
Home

The Carmarthenshire Historian

Historian


Start of topic | Skip to actions

Merched Plwyf Llanddarog

gan GWILYM EVANS, O.B.L., M.SC.

(TODO needs proof-reading)

PLWYF cymharol fach yw plwyf Llanddarog, yn Sir Gaerfyrddin, ond yr oedd yn ddigon pwysig ar un adeg i gael arglwydd iddo ei hun, sef Hywel mab Rhys Gryg, gyda theitl "Arglwydd Llanddarog".

Does dim son am Arglwyddes Llanddarog, ond bu yma ferched gwrol, gyda greddf gymdeithasol gref. Y mae'n werth sylwi ar beth o'u hanes.

Yn adeg yr erlid mawr gan esgob ac arglwydd yn 1662, fe esgymunwyd Margaret Dafydd William a Margaret Kate o eglwys y plwyf. Fe ddichon eu bod ymlith yr anghydffurfwyr a oedd yn gwrthod plygu i fynd i'r eglwys, a mynnu crefydda yn eu ffordd syml eu hunain.

Ddechrau'r ganrif nesaf yr oedd Wardeniaid Llanddarog yn cwyno bod Jane Thomas William a gwraig Jeremiah Thomas, gyda'u gwŷr, yn gwrthod mynychu eglwys y plwyf, na bedyddio eu plant yno. Dyna herio esgob eto, a goddef anfanteision wrth gadw yn ffyddlon i'w capel bach.

Un o'r genhedlaeth ar ôl y gwragedd hyn oedd Dorothy, neu 'Dorti ' Jones o Llanddarog. Gan ei bod hi yn ferch ddawnus, dewisodd Howell Harris hi i'w ganlyn i'r Seiadau Methodistaidd, a chanu emynau yno. Clywodd Richard Tibbott hi yn canu yn seiad fferm Cilcarw gerllaw Pontyberem. Rhoddodd Tibbott y lle blaenaf i emyn o'i gwaith yn ei gasgliad o emynau. Fel hyn yr y mae'r pennill cyntaf o emyn Dorothy Jones :

"0 dewch chwi oll blant Duw ynghyd Mynegaf i'ch ar hyn o bryd Pa beth addawodd fy Arglwydd hael I'm henaid sydd mewn cystudd gwael"

Ganrif ar ôl Dorti Jones gwelwyd, un bore ynghanol Mehefin, 1843, orymdaith hapus o ferched yn cerdded o dafarn y Tywysog Saxe Coburg, Porthyrhyd, i gael pregeth yng nghapel Bethlehem. Ar ôl pregeth ragorol aethant yn l i'r dafarn i fwynhau cinio flasus. Wedi'r cinio cawd cyfarfod busnes, ac etholwyd Sarah Thomas, Y Gors, i'r gadair, a Maria Griffiths, Brynamlwg i'r is-gadair. Treuliwyd y prynhawn yn ddiddanus iawn, ac ymadawodd pawb wedi eu boddhau yn anghyffredin o dda. Beth oedd yma? Yn fyr—Cyfarfod Blynyddol yr Iforesau—math o Gymdeithas Lesoedd yma. Dechreuwyd mudiad yr Iforiaid yn Wrexham yn 1836, gyda'r amcan o hybu'r Diwylliant Cymreig, yn ogystal a pharatoi moddion ariannol ar gyfer dyddiau blin. Bwriad arall oedd ffurfio Clybiau Iforesau yn ogystal a Chlybiau Iforiaid, ar draws Cymru. Ym mhlwyf Llanddarog y sefydlwyd un o'r ychydig Glybiau Lles i ferched yng Nghymru.

Gafaelodd sefydliad y 'cwrw bach' yn gryf yn y plwyf hwn. Lle 'roedd tlodi neu angen cymorth ar bâr ifanc i sefydlu cartref, yr oeddent yn arfer macsu cwrw yn y tŷ lle'r oedd yr angen. Byddai'r cymdogion yn galw gyda'r nos am tua mis o amser—y gwŷr i fwynhau'r ddiod gadarn, a'r merched i gael te a biscedi, a phawb yn rhoi eu hewyllys da mewn arian. Lle cedwid gwenyn, yr oedd medd yn cael ei baratoi yn lle'r cwrw. Gellir dychmygu yr hwyl yng nghyfeddach y 'cwrw bach.' Bu rhai o'r canlyniadau yn achos i'r Parch W. E. Evans, Capel Seion, i weithio'n ddygn tros ddirwest, a llwyddo i ddileu'r cwrw bath.

Cododd yr Annibynwyr Gapel Seion, plwyf Llanddarog, yn 1712, pryd nad oedd yr un capel arall gan yr anghydffurfwyr yn nyffrynnoedd Gwendraeth Fawr a Gwendraeth Fach. Cymerodd y ferch ei lle yn amlwg yn y gymdeithas hon. Yr oedd tair ohonyt, un adeg, yn Henaduriaid yng Nghapel Seion.

Merched ifainc a gyneuodd fflam Diwygiad 1904 yn y capel hwn. Un noson oer o rew ac eira, aeth rhes o las lancesau, un ar ôl y llall i weddi am y tro cyntaf erioed yn festri fach y capel. Syfrdanwyd yr eglwys y Sul canlynol, wrth weld pedair o'r merched hyn yn darllen, a phedair arall yn mynd i weddi yn Sêt Fawr cyn y bregeth. Dyna ddechrau cyfarfod arbennig i'r chwiorydd.

Yr union ferched hyn a fu hefyd, tua phedair blynedd ar ôl y Diwygiad, yn arloesi gyda'r ddrama yn y cylch, a chymryd rhannau i'r ferch mewn gweithiau newydd fel "Beddau'r Proffwydi" a "Thor priodas".

(Darlledwyd yr ysgrif uchod gan B.B.C. Cymru yn Ebrill 1966)


to top


Historian.MerchedPlwyfLlanddarog moved from Home.MerchedPlwyfLlanddarog on 11 Sep 2005 - 15:53 by ChrisJones - put it back
You are here: Historian > HistorianVol4 > MerchedPlwyfLlanddarog

to top